Gwneud Marc 45 – Dinistr y Deml
20 Mai 2020 | Gan Emyr James
45 – Dinistr y Deml
Marc 13:1-23
Wrth iddo fynd allan o’r deml, dyma un o’i ddisgyblion yn dweud wrtho, “Edrych, Athro, y fath feini enfawr a’r fath adeiladau gwych!” A dywedodd Iesu wrtho, “A weli di’r adeiladau mawr yma? Ni adewir yma faen ar faen; ni bydd yr un heb ei fwrw i lawr.” Fel yr oedd yn eistedd ar Fynydd yr Olewydd gyferbyn â’r deml, gofynnodd Pedr ac Iago ac Ioan ac Andreas iddo, o’r neilltu, “Dywed wrthym pa bryd y bydd hyn, a beth fydd yr arwydd pan fydd hyn oll ar ddod i ben?” A dechreuodd Iesu ddweud wrthynt, “Gwyliwch na fydd i neb eich twyllo. Fe ddaw llawer yn fy enw i gan ddweud, ‘Myfi yw’, ac fe dwyllant lawer. A phan glywch am ryfeloedd a sôn am ryfeloedd, peidiwch â chyffroi. Rhaid i hyn ddigwydd, ond nid yw’r diwedd eto. Oblegid cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas. Bydd daeargrynfâu mewn mannau. Bydd adegau o newyn. Dechrau’r gwewyr fydd hyn. A chwithau, gwyliwch eich hunain; fe’ch traddodir chwi i lysoedd, a chewch eich fflangellu mewn synagogau a’ch gosod i sefyll gerbron llywodraethwyr a brenhinoedd o’m hachos i, i ddwyn tystiolaeth yn eu gŵydd. Ond yn gyntaf rhaid i’r Efengyl gael ei chyhoeddi i’r holl genhedloedd. A phan ânt â chwi i’ch traddodi, peidiwch â phryderu ymlaen llaw beth i’w ddweud, ond pa beth bynnag a roddir i chwi y pryd hwnnw, dywedwch hynny; oblegid nid chwi sydd yn llefaru, ond yr Ysbryd Glân. Bradycha brawd ei frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn, a chyfyd plant yn erbyn eu rhieni a pheri eu lladd. A chas fyddwch gan bawb o achos fy enw i; ond y sawl sy’n dyfalbarhau i’r diwedd a gaiff ei achub. “Ond pan welwch ‘y ffieiddbeth diffeithiol‘ yn sefyll lle na ddylai fod” (dealled y darllenydd) “yna ffoed y rhai sydd yn Jwdea i’r mynyddoedd. Pwy bynnag sydd ar ben y tŷ, peidied â dod i lawr i fynd i mewn i gipio dim o’i dŷ; a phwy bynnag sydd yn y cae, peidied â throi yn ei ôl i gymryd ei fantell. Gwae’r gwragedd beichiog a’r rhai sy’n rhoi’r fron yn y dyddiau hynny! A gweddïwch na ddigwydd hyn yn y gaeaf, oblegid bydd y dyddiau hynny yn orthrymder na fu ei debyg o ddechrau’r greadigaeth a greodd Duw hyd yn awr, ac na fydd byth. Ac oni bai fod yr Arglwydd wedi byrhau’r dyddiau, ni fuasai neb byw wedi ei achub; ond er mwyn yr etholedigion a etholodd, fe fyrhaodd y dyddiau. Ac yna, os dywed rhywun wrthych, ‘Edrych, dyma’r Meseia’, neu, ‘Edrych, dacw ef’, peidiwch â’i gredu. Oherwydd fe gyfyd gau feseiau a gau broffwydi, a rhoddant arwyddion a rhyfeddodau i arwain ar gyfeiliorn yr etholedigion, petai hynny’n bosibl. Ond gwyliwch chwi; yr wyf wedi dweud y cwbl wrthych ymlaen llaw.
Geiriau Anodd
- Meini: Cerrig.
- Cyfyd: Bydd yn codi.
- Gwewyr: Poen.
- Ffieiddbeth diffeithiol: Peth atgas sy’n dinistrio.
- Etholedigion: Y rhai mae Duw wedi eu dewis.
Cwestiwn 1
Ydych chi weithiau yn meddwl sut fydd y byd yn dod i ben?
Cwestiwn 2
Pam ydych chi’n meddwl fod Iesu’n rhybuddio ei ddisgyblion am hyn?
Mae’r adran nesaf o lyfr Marc yn un anodd i’w deall, ac rydyn ni’n mynd i edrych arni mewn dwy ran. Mae’n amlwg bod un o’r disgyblion wedi’i syfrdanu gan mor hyfryd oedd adeilad y deml. Ymateb Iesu yw dweud fod y deml yn mynd i gael ei dinistrio. Ychydig yn nes ymlaen mae grŵp bach o’r disgyblion yn gofyn iddo sut mae hyn yn mynd i ddigwydd, a sut fyddan nhw’n gwybod pan fydd diwedd amser yn dod. Mae’n bwysig sylwi felly fod yna ddau gwestiwn fan hyn.
Yn y rhan rydyn ni’n ei hystyried heddiw, mae Iesu’n delio â’r rhan gyntaf, sef pryd fydd y deml yn cael ei dinistrio. Yn y cyfnod rhwng i Iesu fynd i’r nefoedd a phan fydd e’n dod nôl i farnu’r byd, mae’n dweud fod llawer o bethau yn mynd i ddigwydd. Bydd llawer o bobl yn dod gan ddweud mai nhw yw’r Meseia; bydd llawer o ryfeloedd, daeargrynfeydd a newyn; bydd Cristnogion yn cael eu herlid; bydd yr Efengyl yn lledu drwy’r holl fyd; bydd yr Eglwys yn derbyn yr Ysbryd Glân.
Ar ben hyn i gyd, bydd y disgyblion yn gweld y ‘ffieiddbeth diffeithiol’. Mae hyn yn gyfeiriad o’r Hen Destament at y cyfnod pan roddodd gelynion Israel ddelwau yn y deml ac aberthu iddyn nhw. Mae Iesu yn dweud fod hyn yn mynd i ddigwydd eto – ac yn wir, fe wnaeth y Rhufeiniaid yr union beth hynny yn y flwyddyn 70 pan wnaethon nhw ddinistrio’r deml. Roedd hyn yn gyfnod o ddioddef mawr, pan fu raid i lawer o bobl ffoi o Jerwsalem.
Sylwch nad yw Iesu yn sôn am ddyddiadau penodol, dim ond y math o beth i’w ddisgwyl. Rydyn ni’n gallu gweld fod y pethau hyn wedi digwydd yn y gorffennol, a bod rhai ohonynt yn dal i ddigwydd, ond dydyn ni ddim yn gallu dweud yn sicr pryd fydd y diwedd yn dod.
Cwestiwn 3
Sut ddylai meddwl am y pethau hyn effeithio ar ein hymddygiad ni heddiw?
Cwestiwn 4
Pam nad oes rhaid i’r Cristion boeni wrth wynebu hyn i gyd?
Gweddïwch
y bydd yr Arglwydd yn eich cadw rhag cael eich twyllo, ac yn eich nerthu wrth wynebu pob math o ddioddef er ei fwyn.