Nid Gofid ond Gweddi
11 Rhagfyr 2019 | Gan Gareth Edwards

Rhannu
Mae’r byd i weld yn lle ansicr iawn ar hyn o bryd. Brecsit, newid hinsawdd, rhyfel masnach, gwrthdaro rhwng gwledydd; beth ddaw o hyn i gyd? Fel Cristnogion, rhaid i ni gofio dau beth pwysig iawn.
Yn gyntaf, does dim byd newydd yn hyn. Mae bywyd wedi bod yn ansicr a bregus ers i Adda ac Efa wrthryfela yn erbyn Duw. Bu’n rhaid i bob cenhedlaeth wynebu canlyniadau bod mewn gwrthryfel yn erbyn Duw mewn byd sydd ar goll ac wedi torri gyda’r holl drafferthion sy’n dilyn.
Yn ail, Duw sy’n rheoli o hyd fel mae’r Beibl yn dweud yn Salm 47 – Mae Duw yn teyrnasu dros y cenhedloedd! Mae e’n eistedd ar ei orsedd sanctaidd! Er bod y byd fel pe bai ar chwâl gyda’n harweinwyr yn methu ymdopi, mewn gwirionedd yr Arglwydd sy’n trefnu pob peth. Mae ef, nid yn unig yn hollalluog ac yn gwybod pob dim, ond hefyd yn llawn cariad ac yn ei garedigrwydd yn gwneud daioni i’r rhai sydd yn gwrthryfela yn ei erbyn. Nid ydym yn ddibynnol ar ffawd sy tu hwnt i’n rheolaeth, yn hytrach rydym o dan law drugarog Duw cariadus.
Yn sgil y pethau yma, beth ddylem ni wneud? Yn sicr, mae’n rhaid i ni ddweud wrth bawb am y newyddion da fod Iesu yn cynnig achub unrhywun sy’n troi a chredu ynddo. Hefyd, rhaid i ni fyw i Dduw gan fod yn halen a goleuni (Matthew 5:13-16) a gwneud daioni i bawb (Galatiaid 6:10).
Ond, y peth cyntaf i’w wneud ydi gweddïo.
- Gweddïwch y bydd pobl yn cael eu hachub, ac y bydd Duw yn gweithio yn ei eglwys. Gofynnwch i’r Arglwydd ymweld â ni eto i newid bywydau pobl a’r genedl. Ymbiliwch arno i roi sicrwydd bywyd tragwyddol i’r rhai sy’n ofnus mewn amseroedd dyrys.
- Gweddïwch y bydd Duw yn parhau yn drugarog tuag at y byd sydd ar goll. Er cynddrwg yw pethau, byddai’n waeth o lawer oni bai fod Duw yn cyfyngu ar ddrygioni a’i ganlyniadau. Diolchwch iddo am ei ddaioni tuag at ddynion a gofynnwch iddo barhau i dosturio wrthym.
- Gweddïwch yn arbennig dros ein harweinwyr fel y mae’r Beibl yn dweud wrthym ni i wneud (1 Timotheus 2:2). Peidiwch â gweddïo yn unig dros y gwleidyddion rydych yn cytuno â nhw. Gweddïwch dros bawb mewn awdurdod p’un ai yn San Steffan yn Llundain, y Senedd yng Nghaerdydd, neu eich awdurdod lleol. Gofynnwch i’r Arglwydd eu hachub, ac iddynt wneud yr hyn sy’n iawn yn ei olwg ef.
- Diolchwch am y rhai o bob plaid wleidyddol sy’n Gristnogion, a gofynnwch ar iddynt gael nerth a dewrder i sefyll dros wirionedd Duw. Hefyd gweddïwch y bydd yr Arglwydd yn codi rhagor o Gristnogion i safleoedd o awdurdod er mwyn iddynt ei wasanaethu ef a’u cyd-ddyn.
- Diolchwch hefyd am y fraint o fyw mewn cymdeithas lle cawn fwynhau rhyddid crefyddol, gwleidyddol a phersonol.
- Gweddïwch dros fudiadau Cristnogol fel Sefydliad y Cristion (The Christian Institute), sy’n ceisio annog a gofyn am safonau Beiblaidd ym mywyd cyhoeddus y genedl. Gofynnwch y byddant yn ddoeth wrth ddylanwadu ar y rhai mewn awdurdod er clod i Dduw.
- Yn olaf, gweddïwch y bydd Duw yn eich defnyddio chi i wrthsefyll y drwg a hybu daioni er clod i’w enw.